Agoriad swyddogol yr arddangosfa gan Peter Lord
Peth confensiyol yw dweud ei fod yn fraint ac yn bleser
i agor arddangosfa fel hon - ond yn yr achos yma, mae'n hollol wir, cliché neu
beidio. Mae'n fraint gan fod gen i barch mawr tuag at waith John Meirion -
gwaith sydd â phethau o bwys i ddweud wrthym heddiw, a gwaith sydd yn debyg o
sefyll prawf amser. Bydd gwaith John yn cael ei ail-ddehongli yn y dyfodfol,
wrth i'r cyd-destun cymdeithasol newid, ond rwi'n hyderus y bydd yn dal i gael
ei ystyried yn arwyddocaol yn ein diwylliant yn bell ar ôl amser y rhan fwyaf
ohonom sydd yn yr ystafell hon heddiw. Mae'n bleser i agor yr arddongosfa hon
gan fod John yn gyfaill i mi ers chwarter ganrif erbyn hyn, ac hefyd yn
gydweithiwr proffesiynol dros yr un un cyfnod.
Dwi ddim am bregethu am waith John heno - mae dod i werthfawrogiad o'i waith yn
fater i bob un ohonoch chi yn bersonol. Os ydych chi am arweiniad ar ffurf
geiriau tuag i mewn i'r gwaith, y person gorau i roi'r arweiniad hwnnw i chi yw
John ei hun. Fe gewch chi ddarllen am ei syniadau yn ei gyfrol hardd yn y
Gymraeg neu yn Saesneg, a chewch gyfle i wrando arno yn darlithio yn y Morlan ar
ddiwedd y mis hwn.
Wedi dweud hynny, nid yw bob amser yn beth call i artistiaid ceisio dehongli eu
gweithiau eu hunain - gall datganiadau gan artistiad mewn catalogau
arddangosfeydd fod yn ddigon hurt weithiau, ac yn embaras, a dweud y gwir. Ond
yn ei ysgrifau mae gan John y gallu angenrheidiol i sefyll yn ôl o'i brofiad
dwys ei hun i raddau, gan osod ei waith mewn cyd-destun athrawiaethol eang. Mae
John yn berson sydd wedi meddwl yn ddwfn am ystyr a phwrpas celfyddyd weledol,
yn ogystal â pherson sydd yn creu ei gerfluniau ei hun, ac er mor gryf mae ei
bwyslais ar emosiwn ac ymdeimlad ysbrydol - a chyfriniol - yn ei broses
greadigol, eto mae ei resymeg a'i ymgais i wneud synnwyr o'i brofiad cyfriniol
yn bwydo mewn i'r gwaith hefyd. Hynny yw, yn amlwg nid yw John yn credu bod
siarad yn gall am y profiad ysbrydol yn tanseilio'r profiad ei hun. Mae e'n
cydnabod bod y profiad ysbrydol a phrosesau rhesymegol yn cyd-fyw yn y dynol
rhyw.
Wel, yn hytrach na mynd mewn i ddyfroedd dyfnion dehongli ei waith, hoffwn
ddweud gair am rywbeth haws i gael gafael ynddo, sef cyfraniad John i fyd celf
Cymru y tu hwnt i'w waith cerflunio. Yr oedd agweddau tuag at gelfyddyd yn
wahanol iawn yng Nghymru chwarter ganrif yn ôl. Erbyn hyn mae'n anodd credu y
fath rwts a oedd yn cael ei siarad pryd hynny gan y gwybodusion - gan gynnwys
gwybodusion Cymraeg eu hiaith - am natur ein diwylliant ni. Roedden ni'n genedl
anweldol, a'n diwylliant ni yn gyfyngedig i'r gair ac i'r gân. Weithiau, cefais
yr argraff bod pobl bron yn ymfalchio yn y culni tybiedig hwnnw. Nid oedd gennym
lle mewn byd celf a oedd, o dan ddylanwad y colegau celf a Chyngor y Celfyddydau,
yn un Seisnigaidd iawn. Fel arweinydd y criw ohonom a ddaeth at ein gilydd,
chwarter ganrif yn ôl, i geisio newid y sefyllfa honno, drwy sefydlu cymdeithas
Gweled, a thrwy ddiwygio celf a chrefft yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bu gan
John rôl ganolog yn y proses sydd wedi arwain at ddymchwel, unwaith ac am byth,
yr hen ganfyddiad cul, ac at drawsnewid y byd celf yng Ngymru.
Credaf ei fod yn ganolog i ganfyddiad John o'r byd fod y pethau sylfaenol mae'n
ceisio amlygu yn ei waith cerflunio yn gyffredin i bawb - i ddynol rhyw, felly -
ond bod y mynegiant o'r pethau sylfaenol hynny yn fater diwylliannol. Nid yw
amrywiaeth ddiwylliannol yn gwahanu pobloedd y byd ond, yn hytrach, y mae'n
cyfoethogi ni i gyd. Y tro cyntaf i fi sgwrsio â John, cofiaf iddo sôn am y
profiad o weithio gyda myfyrwyr celf yn Ghana. Yno, cafodd ei synnu'n fawr i
ddarganfod bod myfyrwyr brodorol yn cael eu hannog gan eu hathrawon i efelychu
celfyddyd y gorllewin, ac i gefni ar eu traddodiadau celfyddydol cynhenid.
Soniodd John yn benodol am y sefyllfa abswrd o weld Picasso yn cael ei osod ar
bedestal yno - a Picasso, wrth gwrs, yn drwm ei ddyled i gelfyddyd gynhenid yr
Affrig! Ond Picasso, nid y celfyddyd cynhenid Affricanaidd a oedd yn sail i'w
waith, a oedd yn cael ei glodfori gan yr athrawon.
Yr oedd agweddau gwladychol yn gyfarwydd iawn i John, wrth gwrs, oherwydd ei
brofiad yn ei wlad ei hun. Yma, y mae wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o
danseilio agweddau o'r fath ym maes y diwylliant gweledol, a hynny nid mewn
ffordd negyddol ond mewn ffordd gadarnhaol, drwy geisio cynyddu hunan hyder
ymhlith artistiaid ifanc a'u cyhoedd, ac ymhlith athrawon hefyd. Gweithiai John
dros gyfnod hir ym myd addysg, yn dysgu athrawon y dyfodol. Yn y meysydd hyn yr
ydym i gyd yn ddyledus iddo am ei gyfraniad sylweddol tuag at greu'r byd celf
creadigol a hyderus sydd yn bodoli yng Nghymru heddiw, ac sydd mor wahanol i'r
sefyllfa a oedd yn ein hwynebu ni bum mlynedd ar hugain yn ôl.
Fel y dywedais ar y dechrau, cliché neu beidio, mae'n fraint ac yn bleser i agor
yr arddangosfa hon, ac i ddiolch i John ac i'r Morlan am greu'r cyfle i ni gyd
fwynhau ei gerfluniau trawiadol.