Amdanom Ni
Sefydlwyd Capel y Morfa yn 1989 pan unwyd dwy o eglwysi Aberystwyth (Salem a Seilo). Sylweddolwyd yn fuan fod modd gwneud mwy na gwasanaethu cynulleidfa'r capel ei hun – roedd yna gyfle i greu pont rhwng yr eglwysi a'r gymdeithas o'u cwmpas. Dyna yw Morlan – canolfan ffydd a diwylliant – a agorwyd yn swyddogol ar 23 Ebrill 2005.
Arferai Capel Seilo sefyll ble mae maes parcio Morlan heddiw. Ffurfiwyd y ganolfan fel y mae heddiw trwy adnewyddu ysgoldy Seilo, estyn yr adeilad a’i gysylltu â Beth-seilun, tŷ’r gweinidog, er mwyn creu canolfan fodern amlbwrpas. Rhan o’r tŷ gwreiddiol felly yw’r toiledau a’r Bar Coffi, ac ar lawr gwaelod y tŷ y mae Swyddfa’r Rheolwr a’r Ystafell Dawel.
Pryderi Llwyd Jones, Gweinidog Capel y Morfa ar y pryd, oedd yn gyfrifol am redeg Morlan yn ystod y tair blynedd gyntaf. Erbyn hyn, mae gan y ganolfan Reolwr llawn amser, ond y mae tîm cryf o wirfoddolwyr yn parhau i gyfrannu llawer at gynnal a chadw gwaith Morlan.
|
Mae Morlan yn sefyll ar safle hen gapel Seilo ac mae'n eiddo i Gapel y Morfa, yr Eglwys Bresbyteraidd leol. 