CLick Logo to go to Morlan homepage

Clwb Clex

 

Clwb Cymraeg i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yw Clwb Clex ac mae croeso mawr i unrhyw un ymaelodi, beth bynnag eu cefndir, ffydd neu ddiwylliant. Bwriad y Clwb yw rhoi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau, ymlacio a joio mewn naws ddiogel a Chymraeg ei hiaith.

 

Rydym yn cyfarfod yn y Morlan bob nos Wener yn ystod y tymor ysgol – o ddiwedd Medi i ddiwedd Mai – rhwng 7 a 9 yr hwyr.

 

Mae ein gweithgareddau’n amrywio o gemau (megis dodgeball, bingo, gemau bwrdd neu snwcer) i weithgareddau celf i sesiynau penodol (megis yoga neu helfa drysor), ynghyd â thripiau i'r ganolfan hamdden neu'r sinema. Ceisiwn hefyd wneud ein gorau dros elusennau sy’n bwysig i ni, yn enwedig rhai yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.

 

Rhedir y Clwb gan bwyllgor sy'n cynnwys Arweinydd y Clwb a chynrychiolwyr o aelodau a rhieni.

 

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Clwb.

 

Am fanylion pellach, e-bostiwch: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.  

         

Nodyn  i rieni

 

Credwn ei fod yn bwysig bod gan rieni gysylltiad agos â’r Clwb, a chroesewir rhieni yn aelodau o Bwyllgor y Clwb. 

 

Mae pob oedolyn sy'n ymwneud â'r Clwb wedi cael y profion angenrheidiol.

 

Cynhelir y Clwb ar safle diogel ar nos Wener ac nid yw'n agored i'r cyhoedd. Ni chaniateir i'r plant fynd allan i chwarae neu i grwydro.

 

Er mwyn bod yn aelod o'r Clwb,  gofynnir i bawb gwblhau ffurflen gofrestru – am resymau iechyd a diogelwch yn  bennaf. 

 

Ffurflen Gofrestru Clwb Clex

 

Polisi Amddiffyn Plant Morlan