Croeso i’r Morlan –canolfan ffydd a diwylliant
Canolfan yw Morlan sydd â’r nod o hybu bywyd cymunedol – yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol, yn lleol a thu hwnt. Fe’i sefydlwyd yn Ebrill 2005 i greu pont rhwng yr eglwys a'r gymdeithas o'i chwmpas ac mae wedi datblygu yn ganolfan bwysig yn yr ardal.
Ond mae Morlan yn llawer mwy nag adeilad ...
... mae'n fan cyfarfod – i greu a thrafod, i berfformio, i ddysgu, i ysgogi a chalonogi, i gyd-ddeall a chlosio, i rannu a chyfrannu – tir canol rhwng yr eglwys a phawb sy'n byw yn ein cymdeithas amlddiwylliannol.
Gellir llogi amryw ystafelloedd Morlan – sy'n cynnwys neuadd fawr – ar gyfer pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau, ac mae ganddi’r cyfleusterau ar gyfer perfformiadau cerddorol a drama.
Mae’n ganolfan brysur! Cynhelir cyfarfodydd gweddi, dosbarthiadau Cymraeg, dosbarthiadau dawns a dosbarthiadau darllen gwefusau yma bob wythnos, ac mae nifer o grwpiau lleol yn ystyried Morlan fel eu ‘cartref’, gan gynnal cyfarfodydd rheolaidd yma. I bobl ifanc ceir clwb ieuenctid – Clwb Clex – sy'n cyfarfod yma’n wythnosol yn ystod y tymor ysgol o ddiwedd Medi i ddiwedd Mai.
Yn ogystal, mae Morlan yn cynnal ei rhaglen ei hun o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn – arddangosfeydd, dramâu, cyngherddau, nosweithiau cymdeithasol a thrafodaethau. Mae nifer o’r rhain yn tynnu sylw at faterion megis Wythnos Un Byd neu faterion sy’n ymwneud â ffydd, heddwch, cyfiawnder a hawliau dynol, ac yn cynnwys pob sector o’r gymuned leol. Ers Ebrill 2010, mae Morlan yn cynnal Darlith Flynyddol ar faterion sy'n ymwneud â ffydd a diwylliant – Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. am wybodaeth am sut i brynu copi o'r Ddarlith Flynyddol.
Ers cyn ei sefydlu, grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddgar bu'n gyfrifol am y Morlan. Er y penodwyd rheolwr llawn amser ym mis Mai 2008, mae gwirfoddolwyr yn parhau'n bwysig iawn i'r ganolfan. Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. os am wybod mwy am sut i ymuno â'r tîm o wirfoddolwyr. |

