CLick Logo to go to Morlan homepage

Cyfleusterau i'w llogi

 

Mae gan Morlan ystafelloedd i’w llogi sy’n addas ar gyfer amryw o weithgareddau – o gyfweliadau bach i bwyllgorau mawr, o gyngherddau, dramâu a ffilmiau i ffeiriau llyfrau, nosweithiau cymdeithasol a dosbarthiadau dawns, ynghyd â chynadleddau, cyfarfodydd cyhoeddus, cyrsiau hyfforddi, gwleddoedd priodas a phob math o ddigwyddiadau eraill.

 

Gellir llogi ystafell am gyn lleied ag awr neu am gyfnodau hirach – bore, prynhawn neu nos – ar delerau cystadleuol iawn, a cheir telerau gostyngol i fudiadau elusennol, cymunedol a chrefyddol, ac ar gyfer digwyddiadau sy’n cyd-fynd ag amcanion Morlan (cysylltwch am fanylion y cyfraddau llogi). Ein nod yw darparu amgylchedd croesawgar, cartrefol i bawb sy'n defnyddio'r ganolfan.

 

Mae’r costau llogi yn cynnwys llogi’r ystafell gyda’r ystafell wedi’i threfnu yn unol â’ch anghenion – boed hynny'n drefniant theatr, yn drefniant cabaret, yn drefniant pwyllgor, neu beth bynnag – gan ddarparu jygiau o ddŵr tap os oes angen. Gwnawn ein gorau i addasu pob ystafell i gyd-fynd â’ch gofynion chi.

 

Gall unrhyw fudiad neu unigolyn logi ystafell (neu ystafelloedd) yn y Morlan cyn belled â’u bod yn rhoi manylion ysgrifenedig amdanynt eu hunain ar y ffurflen llogi, ac yn darparu gwybodaeth ychwanegol os gofynnir am hynny. O dan rhai amgylchiadau, gall Morlan wrthod cais i logi ystafell. Ceir esboniad o'r amgylchiadau hyn ynghyd â gweddill y telerau ac amodau yn y ddogfen Telerau ac Amodau Llogi.

 

Dogfennau Pwysig

 

Telerau ac Amodau Llogi
Cynllun Argyfwng
Polisi Iechyd a Diogelwch

  

Neuadd

  

         

Mae neuadd amlbwrpas Morlan yn addas ar gyfer cynnal cyngherddau a pherfformiadau o bob math. Ceir llwyfan y gellir ei haddasu o ran siâp, uchder a maint, piano a system goleuadau a sain, gydag ardal ‘cefn llwyfan’ neu 'ystafell werdd'.

 

             

Mae’r neuadd hefyd yn addas ar gyfer pwyllgorau mawr, cynadleddau, darlithoedd, cyfarfodydd cyhoeddus, ffeiriau llyfrau a chrefft, dosbarthiadau dawns, ymarfer corff a chanu; gellir addasu trefniant yr ystafell yn unol ag anghenion y digwyddiad. Os nad oes angen yr holl ofod arnoch, mae modd tynnu llenni ar draws yr ystafell i greu gofod llai, mwy agos atoch. Mae gan Morlan drwydded i chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio.

 

Gall y neuadd ddal dros 200 o bobl mewn trefniant theatr a rhyw 100 o bobl mewn trefniant cabaret. Mae'n mesur 21m x 11.9m.

 

Ystafelloedd Pwyllgor

 

Mae gennym ddwy ystafell bwyllgor:

• Yr Ystafell Werdd: mae gan yr ystafell hon lawr pren ac mae'n addas ar gyfer pwyllgor o hyd at 18 person, neu mae'n dal rhyw 26 mewn trefniant theatr.

 

 

 


• Yr Ystafell Dawel: gellir cynnal pwyllgor o hyd at 10 o bobl yn yr ystafell hon, neu mae'n dal rhyw 18 mewn trefniant theatr neu mewn cylch. Mae'n ystafell gyfforddus ac yn arbennig o addas ar gyfer cylchoedd trafod, addoli mewn grŵp bach neu i ymdawelu; ceir rhywfaint o adnoddau darllen a myfyrio yno.

 

 

 

 

 

Bar Coffi 

         


Mae lle i ryw 24 eistedd yn gyfforddus yn y Bar Coffi (dros ddwy lefel), ac mae’n addas iawn ar gyfer cynnal bore coffi neu achlysur tebyg, ond gellir ei ddefnyddio hefyd fel man cyfarfod anffurfiol. Mae adnoddau arlwyo syml ar gael.

 

Mae'r Bar Coffi ar ddwy lefel. Lleolir Oriel Morlan ar y lefel uchaf ble cynhelir arddangosfeydd celf trwy gydol y flwyddyn. Cysyllter am fwy o wybodaeth.

 

Arlwyo

 

Gallwn ddarparu diodydd ar gyfer eich digwyddiad. Mae Morlan yn ganolfan Fasnach Deg, felly dim ond sudd oren, te, coffi, siwgr a bisgedi (pan fo hynny'n bosibl) Masnach Deg a weinir gennym. Gallwch hefyd logi ein cyfleusterau cegin i ddarparu eich paneidiau eich hun ond rhaid trefnu hyn o flaen llaw.

 

Os oes gennych anghenion arlwyo yn ystod oriau swyddfa, rhaid trefnu hyn drwy Morlan. I'r perwyl hwn, y mae Morlan wedi sefydlu cytundeb arlwyo gyda treehouse – siop a thŷ bwyta organig yn Aberystwyth. Mae’r holl gynhwysion a ddefnyddir gan treehouse:

• wedi’u cynhyrchu’n organig, os ydynt ar gael felly

• yn gynnyrch lleol a thymhorol, ble bynnag y mae hynny’n bosibl

• yn fasnach deg pan fo hynny’n berthnasol.

 

Os yw eich digwyddiad y tu allan i oriau swyddfa neu dros y penwythnos, gallwch ddewis  rhwng defnyddio trefniadau arlwyo Morlan neu wneud eich trefniadau eich hunain.

 

Gweler ein Telerau ac Amodau Llogi am fanylion pellach.

 

 

Adnoddau Eraill

 

Mae gan Morlan le parcio ar gyfer rhyw 10 o geir sydd at ddefnydd llogwyr a'r rheiny sy'n mynychu digwyddiadau yn unig er na ellir gwarantu y bydd llefydd gwag ar gael.

 

Mae mynediad i’r anabl i bob rhan o’r adeilad ac, yn ogystal â'r toiledau arferol, ceir toiled i’r anabl sydd hefyd yn cynnwys man newid clytiau.

 

Mae dolen anwythiad wedi'i gosod yn y neuadd ac mae modd llogi'r offer canlynol ond rhaid eu harchebu o flaen llaw: meicroffonau (neuadd yn unig), taflunydd digidol, bwrdd gwyn, siart troi, chwaraewr CD. Gellir hefyd darparu llungopïau (lliw a dua gwyn) am bris rhesymol.

 

Mae mynediad at Ryngrwyd Band Eang Di-wifr dim ond ar gael yn yr Ystafell Dawel ac ar lefel isaf y Bar Coffi.