Eisteddfod Calan Mai yn llwyddiant mawr Bu'r Eisteddfod Calan Mai cyntaf i'w chynnal yn Morlan yn llwyddiant ysgubol. Roedd y neuadd yn dechrau llenwi cyn i'r Eisteddfod gychwyn am 5 o'r gloch ac fe arhosodd yn llawn i’r ymylon trwy gydol y nos gyda phawb yn mwynhau yr amrywiaeth eang o gystadlaethau – o unawd y plant cynradd i’r cystadleuaeth bwyta bisgedi, o’r sgetsh i’r ensemble offerynnol – gan orffen ar ddiwedd y nos gyda phump o gorau brwd yn brwydro am y wobr. Ni phallodd mwynhad a brwdfrydedd y gynulleidfa o gwbl cymaint oedd safon y talent lleol a ymddangosodd ar y llwyfan. Roedd y talent a welwyd yn y cystadleuthau gwaith cartref yr un mor uchel. Cliciwch yma i weld yr holl ganlyniadau. Diolch mawr: ♦ i Clive Williams, Deian Creunant a Gwenallt Llwyd Ifan am arwain y noson ♦ i Lona Phillips am gyfeilio ♦ i’r beirniaid – gwaith cartref a llwyfan (Dewi a Rhiannon Pws Morris, Magwen Pughe, Geraint Thomas, Catherine Young, Anwen Davies, Geraint ac Eirian Evans, David Greaney, Bleddyn Huws, Harry a Medi James, Ruth Jên) ♦ i'r holl noddwyr ♦ i Bwyllgor a Swyddogion yr Eisteddfod dan arweiniad Dana Edwards am eu holl gwaith.
Edrychwn ymlaen yn awr at y flwyddyn nesaf. |
DARLITH FLYNYDDOL 2013 Y mae Morlan unwaith eto wedi llwyddo i ddenu siaradwr o fri i draddodi ei Darlith Flynyddol. Elan Closs Stephens – addysgwr a gwas sifil a chynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC – yw’r siaradwr hwnnw, a bydd yn cyflwyno ei darlith ar nos Iau, 9 Mai. Mae’r Ddarlith Flynyddol yn un o nifer o ddigwyddiadau y mae Morlan yn eu trefnu ar draws y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys clwb ieuenctid, cyngherddau, arddangosfeydd celf, nosweithiau a gwyliau llenyddol, digwyddiadau cymdeithasol a thrafodaethau. Mae'r gweithgareddau yr ydym yn eu trefnu yn ymdrin ag ystod eang o bynciau – cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol. Yr ydym yn ceisio adlewyrchu’r amrywiaeth hon yn ein dewis o siaradwyr i draddodi’r Ddarlith Flynyddol. Llwyddom i ddenu siaradwr nodedig iawn bob blwyddyn ers 2010 pan drefnon ni ein Darlith Flynyddol gyntaf i nodi pumed pen-blwydd y ganolfan. Nid yw eleni’n eithriad ac edrychwn ymlaen yn fawr i groesawu Elan Closs Stephens i Morlan, yn arbennig gan fod testun ei darlith mor gyfredol. Wedi’i geni yn Nhalysarn yn Nyffryn Conwy, Gwynedd, derbyniodd Elan Closs Stephens ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville, Rhydychen. Ar hyn o bryd hi yw Athro Emeritws Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Trwy ei rôl yn y Brifysgol, mae Elan wedi addysgu nifer o’r talentau sydd i’w gweld ym meysydd theatr a darlledu heddiw. Hi hefyd yw un o’r bobl mwyaf blaenllaw o ran polisi darlledu yng Nghymru trwy ei gwaith ar Gyngor Darlledu Cymru ac fel Cadeirydd S4C. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill cyfoeth o brofiad ar amryw o gyrff cyhoeddus ac, yn 2001, fe’i hanrhydeddwyd gyda CBE am ei gwasanaeth i ddarlledu a’r iaith Gymraeg. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr Cymru gydag Ymddiriedolaeth y BBC ac yn Uwch Siryf Dyfed. Testun ei darlith yw “2020: Diwylliant Darlledu” a bydd yn ymdrin â nifer o faterion sy’n ymwneud â darlledu, yn arbennig felly yn sgil Ymchwiliad Leveson a’r datblygiadau diweddar gyda’r BBC – pethau megis arwahanrwydd yn y byd darlledu, sicrhau atebololrwydd, cadw pellter o’r Llywodraeth, ac ati. Ceir elfen o chware â geiriau yn nheitl y ddarlith; mae’n cyfeirio at ddirnad y sefyllfa gyfredol (gyda golwg 20-20) ond hefyd yn ystyried ble fydd darlledu ymhen saith mlynedd a sut bydd pethau wedi datblygu erbyn hynny. Bydd yna ddigon i’w drafod felly. Bydd Elan yn traddodi trwy gyfrwng y Gymraeg ond bydd offer cyfieithu-ar-y-pryd ar gael. Dr Rhodri Llwyd Morgan fydd yn cadeirio’r noson sy’n cychwyn am 7.30. Tâl mynediad: £5 (talu wrth y drws). |
NOSON CÂN A CHYNNIG Digwyddiad codi arian i Morlan – cân gan Dafydd Iwan a chyfle i gynnig mewn Ocsiwn Dawel7.30, nos Fercher, 13 Chwefror 2013 
Mae Pwyllgor Rhaglen Morlan wedi hen arfer â threfnu nosweithiau difyr ac unigryw ac roedd y noson hon yng nghwmni Dafydd Iwan ynghyd ag Ocsiwn Dawel i godi arian tuag at gostau rhedeg y ganolfan yn un arall o'r rheiny. Tra fod Dafydd Iwan yn gyfarwydd iawn â pherfformio ar lwyfannau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, roedd naws gynnes ag agos atoch y noson hon yn golygu ei fod yn medru siarad mwy â’i gynulleidfa a rhoi ychydig o’r hanes a fu’n ysbrydoliaethi i rai o’i ganeuon enwocaf. Cafwyd y llon a’r lleddf, y caneuon protest a’r caneuon dychan, a phawb oedd yn bresennol wedi mwynhau'n arw. Elfen arall y noson oedd yr Ocsiwn Dawel, cyfle i bobl gynnig pris am amrywiaeth o bethau. Ymysg yr hyn oedd yn cael eu cynnig oedd gwers gwneud eclairs, penwythnos yn Nhresaith, lluniau gan artistiaid enwog, gwaith cyfreithiol, cerddi comisiwn a phecyn o lyfrau diddorol. Mae Morlan yn ganolfan brysur a phoblogaidd yn Aberystwyth ond, fel pob lleoliad cyffelyb, mae yna gostau sylweddol ynghlwm â’i rhedeg a chaiff elw’r noson ei ail fuddsoddi i ddatblygu gweithgarwch Morlan. Agorwyd yr Ocsiwn cyn y noson mewn gwirionedd er mwyn rhoi cyfle i'r rheiny oedd yn methu bod yn bresennol cynnig ar eitemau a chefnogi Morlan. Llwyddwyd i godi dros £1000 fydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i Morlan. Diolch i Dafydd Iwan am gefnogi'r noson, i bawb a gyfrannodd eitem ar gyfer yr Ocsiwn ac i bawb a gyfrannodd ym mha bynnag ffordd i lwyddiant y digwyddiad. Gwerthfawrogir pob cefnogaeth yn fawr. ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------ |
CWMNI MORLAN YN CYFLWYNO UN O DDRAMÂU KATE ROBERTS 21-22 Hydref 2012 
Roedd cyfle prin i weld perfformiad o un o ddramâu Kate Roberts yn Morlan ym mis Hydref, sef Y Canpunt – comedi o Gwm Tawe. Mae Kate Roberts yn adnabyddus iawn fel awdur a nofelydd llwyddiannus wrth gwrs, ond efallai nad pawb sy'n gwybod am y dramâu byrion a’r sgetsys a ysgrifennwyd ganddi. Cyhoeddwyd nifer o’r dramâu, cymaint oedd eu llwyddiant – er bod llawer allan o brint erbyn hyn. Roedd Kate Roberts yn gweithio mewn grwpiau bach o fenywod yn debyg i’r grwpiau o fenywod oedd yn cydweithio i gynhyrchu dramâu swffragét yn Lloegr ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Cyfrannodd at nifer o sgetsys a dramâu a berfformiwyd gan grwpiau drama amatur, ac roedd Y Canpunt yn un o’r rhain. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1916 ac fe’i gyhoeddwyd gan y Welsh Outlook Press yn y Drenewydd yn 1923. Yn yr argraffiad hwn, rhestrir Margaret Price, Kate Roberts a Betty Eynon Davies yn awduron y ddrama. Drama un act yw hi gyda phump o gymeriadau: Mrs Davies, gweddw gyfoethog; Adelina, ei merch; Jim Davies, ei nai; Mari Myfanwy, cariad Jim; a Sam Price, perchennog pwll glo. Y mae Jim am greu argraff dda ar ei fodryb yn y gobaith y bydd yn rhoi canpunt iddo a fydd yn ei alluogi i briodi Mari. Mewn gwirionedd, addawyd y canpunt hwn iddo gan ei ewythr pan oedd ar ei wely angau ond mae ei fodryb yn gyndyn o gyflawni’r addewid gan ddadlau nad yw’r ddarpar wraig yn addas.  Ni all Mari ddioddef agwedd ffroenuchel y fodryb ac mae’n amau bod Mrs Davies am i Jim briodi Adelina yn lle, tra bod Jim yn credu bod ei fodryb a’i bryd ar Sam Price fel mab-yng-nghyfraith. Ac felly mae’r stori’n datblygu ...  Perfformiwyd y ddrama ar ddwy noson gan Gwmni Morlan – cwmni amatur sy’n cyfarfod yn Morlan ac yn perfformio cyflwyniadau a chynhyrchiadau amrywiol fel rhan o raglen gweithgareddau y ganolfan. Cyn y perfformiad cyntaf, bu Francesca Rhydderch a Katie Gramich yn trafod gwaith Kate Roberts. Yn ôl Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cwmni Morlan: “Mae’r Canpunt yn hwyliog ac yn enghraifft berffaith o’r dramâu a ysgrifennwyd i’r cwmnïau amatur a frithai’r ardaloedd gweithiol ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Er yn wrthbwynt i weddill allbwn Kate Roberts mae yma lawer sy’n adlais o safbwyntiau’r awdures – lle’r ferch mewn cymdeithas a’r arfer i droi oddi wrth y Gymraeg er mwyn bod yn ‘genteel'."  --------------------------------------------------------------------------------------- |
|
|