Digwyddiadau
Digwyddiad
- Teitl:
- GŴYL LYFRAU'R MORLAN
- Dyddiad:
- 09.11.2012 - 10.11.2012
- Lle:
- Neuadd (Hall) -
- Categori:
- Digwyddiad arbennig (Special event)
Disgrifiad
GŴYL LYFRAU MORLAN
Nos Wener, 9 Tachwedd i brynhawn Sadwrn, 10 Tachwedd
Trefnir ar y cyd rhwng y Morlan a Chylch Darllen Aberystwyth fel rhan o Raglen Digwyddiadau Morlan.
7.30, nos Wener, 9 Tachwedd
Dylan Iorwerth yn holi'r Arglwydd Elystan Morgan
Yn dilyn cyhoeddi ei hunangofiant, cyfle i glywed mwy am waith a gyrfa un o wleidyddion amlycaf Cymru. Bydd y sgwrs yn Gymraeg ond darperir offer cyfieithu-ar-y-pryd. Lansir yr hunangofiant Amrywiol Atgofion yn ystod y noson gan Y Lolfa.
Mynediad: £5
Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd
10.00-10.30: Cofrestru a phaned
10.30-11.30: Francesca Rhydderch yn holi Wiliam Owen Roberts
11.30-12.30: Egino Blodeugerddi – anerchiad gan Bethan Mair. Cadeirydd: Arwel Rocet Jones
12.30-1.15: Cinio
1.15-2.15: Dwy Iaith, Dau Ddiwylliant – anerchiad gan Jon Gower. Cadeirydd: Gwen Davies. Noddir y sesiwn hon gan New Welsh Review
2.15-3.15: Catrin Beard yn holi Llwyd Owen. Lansir nofel newydd Llwyd Owen Heulfan yn ystod y sesiwn hon. NODER: GALL MYFYRWYR (YSGOL A CHOLEG) FYNYCHU'R SESIWN HON AM £1.
Cyfle hefyd i brynu'r llyfrau diweddaraf ar stondin dan ofal Inc.
Mae croeso i chi fynychu sesiynau unigol am £4 yr un neu gallwch brynu Tocyn Diwrnod am £18 (yn cynnwys mynediad i'r 4 sesiwn, cinio a phaneidiau). Oherwydd trefniadau bwyd, rhaid archebu Tocyn Diwrnod o flaen llaw. Noder: mae'r holl docynnau ar werth o Morlan yn ystod oriau swyddfa.
Cydnabyddir cymorth ariannol Llenyddiaeth Cymru.
A Welsh book festival organised by the Morlan Centre and the Aberystwyth Reading Circle, Friday and Saturday, 9-10 November.
The event has been organised with financial assistance from Literature Wales.
EventList powered by schlu.net