Os yr ydych am dderbyn e-bwletin
newyddion wythnosol o'r Forlan yn cynnwys manylion digwyddiadau,
hysbysebion ac yn y blaen, anfonwch eich dymuniad at yr e-bost isod.
Ers
ei sefydlu tair blynedd yn ôl mae Morlan wedi datblygu yn Ganolfan o bwys
sy’n ganolog i nifer o weithgareddau yn Aberystwyth, Ceredigion ac yn
genedlaethol gan wneud defnydd helaeth o’r adnoddau amrywiol sydd yno.
Sefydlwyd y Ganolfan gyda’r nod o greu pont rhwng y ffydd Gristnogol
a’r Gymdeithas. Yr ydym yn awr yn edrych am berson egniol, llawn
dychymyg fel Rheolwr/Rheolwraig i weinyddu pob agwedd o waith y Ganolfan.
Byddai disgwyl hefyd i roi arweiniad creadigol wrth ddatblygu rhaglen y
Ganolfan.
Swydd
am flwyddyn bydd hon yn gyntaf ond y bwriad yw iddi ddatblygu i fod yn
swydd barhaol. Cyflog o ddeutu £20,000 y flwyddyn, gydag oriau a thelerau
gwaith i’w trafod.
Dyddiad
Cau 22ain Chwefror
Cyfweliadau
29ain Chwefror
An
fanylion pellach cysylltwch â Cadeirydd y Bwrdd Rheoli, Mr Wyn Hughes