Anerchiad yng nghanolfan y Morlan, 13 Mehefin 2007
Fe ddylwn ymddiheuro yn gyntaf am ddewis teitl pryfoclyd. Rwy’n tynnu
coes y rheini sydd yn rholio’u llygaid ac yn credu bod yma Li’bral arall
yn gwadu’r Gair; ond ‘rwy hefyd yn mynd i dynnu coes y rhai sy’n meddwl
eu bod yn mynd i gytuno â mi ac yn teimlo bod y darlun traddodiadol o
Dduw fel tân ysol yn anghyson â’r gŵr ar y groes sy’n dweud “Arglwydd
maddau iddynt”.
Yn ein dychymyg meidrol ni, y mae Barn a Chosb a Digofaint
ynghlwm wrth ei gilydd ac yn awgrymu Duw sydd fel ni,’o dro i dro’n
colli ei limpyn. Heno ‘rwy am geisio,
- yn gyntaf, ddatgysylltu’r tri chysyniad, ac awgrymu ffyrdd newydd o’u
dehongli.
- yn ail - dychwelyd at y testun a gweld proses lle y mae Iesu fel
petai’n tanseilio o’r tu fewn llawer o’r eirfa grefyddol draddodiadol.
- yn drydedd fe fyddai’n tynnu’ch sylw at rai darnau allweddol, gan
obeithio rhoi hwb i chi i’w darllen o’r newydd.
‘Rwy’n cydnabod fy nyled i waith dau awdur y bydd, greda’i, llawer o sôn
amdanynt yn y dyfodol. Y cyntaf yw’r Ffrancwr Rene Girard, sydd wedi
rhoi golwg newydd i ni ar y cysylltiad rhwng trais a’r sanctaidd. Yr ail
yw disgybl iddo o’r enw James Alison. Trwy fynd lawr at y gwreiddiau y
mae’nhw’n dod at gasgliadau hynod o uniongred, ond yn datguddio cymaint
o fân gregin sy’ wedi ymgasglu o gwmpas llong ffydd.
Dicter, Barn, Cosb Y mae’r tri gair dicter, barn a chosb yn pwysleisio
dicter cyfiawn Duw at bechodau’r ddynoliaeth a phechodau’r genedl fechan
ddethol, pobl Dduw, Is-ra-el. Mae’r Hen Destament yn hynod o
onest am drais dynol. Yn aml priodolir y trais hwn, yn rhesymol ddigon
yn ôl ein safonau ni, i Dduw. Y mae’r Hen Destament yn unigryw am ei fod
yn gweithio at ddehongliad o’r picil y mae’r ddynoliaeth ynddi. Yn y
diwylliannau paganaidd aberthol datblygir syniad o dduwiau mympwyol a
threisgar ac y mae’r rhai sy’n cael eu lladd ganddynt bob amser yn euog.
Damcaniaeth Girard yw bod y straeon Beiblaidd am Dduw ac am hanes y
genedl yn dangos gweledigaeth unigryw o natur Duw a ddaeth i’r genedl
a’i dysgu im bwysigrwydd yr ysglyfaeth ddiniwed. Nid yng nghryfder
Brenin ac ymerodraeth, nid yn nerth a chryfder arfog y gwelir natur Duw,
ond yn yr un sy’n cael ei feio ar gam. Datguddir Duw er enghraifft yn y
llef ddistaw fain i Elias, yn Jeremeia yn y pwll y tu allan i Jerwsalem,
yng ngwas dioddefus Eseia, ac yn wir yn llef y salmydd pan amgylchir ef
gan ei elynion.
Y mae priodoli dicter a chosb i Dduwdod yn digwydd mewn crefyddau lu.
Ond yn Iesu o Nasareth cawn grebwyll a dychymyg ysbrydol sy’n radical
wahanol ac yn defnyddio’r geiriau hyn yn hynod ochelgar, yn wir yn
eironig iawn. Y mae’r darlun o Dduw ym meddwl Iesu, medd Ioan, yn Dduw
nad yw’n dymuno barnu o gwbl er fod ganddo’r awdurdod i wneud hyn. Pa le
sydd wedyn i na dicter na chosb? Y mae’n Dduw nad oes ynddo ddim
tywyllwch. Gai rhoi ychydig enghreifftiau.
a) Ioan : Iesu a Nicodemus: (Ioan 3:17-21)
Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er
mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo ef. Nid yw neb sy’n credu ynddo ef yn
cael ei gondemnio, ond y mae’r hwn nad yw’n credu wedi ei gondemnio
eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw. A dyma’r
condemniad, i’r goleuni ddod i’r byd ond i ddynion garu’r tywyllwch yn
fwy na’r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg. Oherwydd y mae pob
un sy’n gwneud drwg yn casáu’r goleuni, ac nid yw’n dod at y goleuni
rhag ofn i’w weithredoedd gael eu dadlennu. Ond y mae’r hwn sy’n gwneud
y gwirionedd yn dod at y goleuni, fel y amlygir mai yn Nuw y mae ei
weithredoedd ef wedi eu cyflawni.
Mae digon yn y fan hon am astudiaeth Feiblaidd am wythnosau! Wnâi
ddim ond crynhoi yng ngeiriau Alison, sy’n disgrifio’r bobl sydd wedi
credu yn Iesu fel hyn . ( Fy nghyfieithiad i.)
Ni fydd pobl fel hyn yn cael eu barnu, am eu bod wedi troi eu cefnau
ar y byd sy’n barnu, condemnio a bwrw allan, er mwyn dechrau byw yn ôl
Duw nad yw’n barnu na chondemnio na bwrw allan. Ond bydd y rhai nad
ydynt yn derbyn y goleuni, sydd ddim yn dymuno bod eu cydweithrediad yn
nhrefn angau i gael ei ddatguddio ac yn well ganddynt ymochel yng
nghysgod yr hen gelwydd llofruddiol, mae’r rhai felly yn cael eu barnu ,
ond eu bod wedi aros yn llwyr y tu mewn i’r drefn honno sy’n barnu,
condemnio a bwrw allan.
(t.139 Living in the End Times- The Last Things Reimagined –
James Alison SPCK 1997 )
Scandal
Y doniolwch yw mai i bobl foesol y mae’r Iesu’n dramgwydd. Ystyriwch
beth oedd yr ymateb i’r geiriau hyn: - Gwyn ei fyd y gŵr na ddaw cwymp iddo o’m hachos i (Mth 11:6 )
A wyddost ti fod y Phariseaid wedi eu tramgwyddo ( Math 156:12)
Pawb sy’n syrthio ar y maen hwn fe’i dryllir (Luc 20: 18)
Gwae’r byd oherydd dyfod scandalau ( rhwystrau/ tramgwyddau) Y gair skandalon yw’r gair allweddol – ac yn cael ei
gyfieithu mewn sawl ffordd wanllyd i’r Gymraeg a’r Saesneg . Y
skandalon yw bod Duw yn peri i’r glaw syrthio ar y cyfiawn a’r
anghyfiawn. Dyle fe ddim yn ein tyb ni! Y mae’n mynd lan ein trwynau
hunangyfiawn i feddwl nad ydi Duw yn gwahaniaethu rhwng fy ymdrechion i
fod yn dda, a difaterwch llwyr y brawd acw sy’n gwneud yn union fel y
myn ac yn cael amser braf tu hwnt, lot o arian a llwyddiant ac edmygedd
a statws. ( vid: I See Satan Fall Like Lightning - Rene Girard
Gracewing 2001). Y Newyddion Da yw sylweddoli sut un yw Duw, a bod ei
Deyrnas ef yn dod i fodolaeth yn ein plith ni pan fyddwn yn dynwared
Iesu, yn ‘treiddio i’r adnabyddiaeth, o’r unig wir a bywiol Dduw…’
Gadwch i ni felly edrych ar rai o’r geiriau allweddol yma y mae Iesu’n
eu tanseilio o’r tu mewn.
Y mae Iesu yn meddu ar weledigaeth gwbl unigryw o natur Duw,
gweledigaeth sydd wedi ei gwreiddio yn ffydd a phrofiad yr Iddewon ac yn
ei dwyn i aeddfedrwydd. Mae’n byw mewn ufudd-dod hyd angau, ie angau ar
groes. Ond y mae ei genhedlaeth ef, yr Iddewon hynny sy’n rhedeg pethau
yn y deml ac yn ymdrin â Rhufain, y crachach gwleidyddol a chrefyddol,
wedi ymbellhau bron yn llwyr oddi wrth y traddodiad eglur hwn ac yn rhoi
beichiau ar gefnau pobl. Ond rhaid i Iesu ddefnyddio’r geiriau’i
draddodiad, y geiriau a’r cysyniadau oedd y tu cefn i’r cwestiynau yr
oedd pobl yn eu holi. Mae’r Iesu yn gorfod defnyddio’r cysyniadau, y
disgwyliadau, y ddealltwriaeth sydd gan genedl wedi eu maethu ar Y
Ddeddf. Y mae, medd James Alison , yn tanseilio’r eirfa a’r
ddealltwriaeth hon o’r tu mewn ac o ganlyniad y mae’r eirfa yn
gwegian ac yn troi’n amwys.
2 TRAWSNEWID YR EIRFA
Y Meseia – Y Crist.
Ystyr Ma’shiah yw'r un sydd wedi ei eneinio gan Dduw. Nid
yw Iesu’n gwadu’r enw. Ond mae’n gwarafun i Pedr ei ddefnyddio. Pam?
Mae’n hysbys bod y gair yn cario llwyth o ddisgwyliadau nad oedd gan
Iesu unrhyw fwriad o’u cyflawni! Yr oedd eneiniog Duw , fy mrawd, fy
nghyfaill cryf yn mynd i fod yn was dioddefus. Byddai ei ddienyddiad
a’i ddyrchafu ar y groes yn dangos mewn ffordd waradwyddus, y
skandalon llwyr o wir natur Duw. (Yr oedd Gwilym O Roberts yn ei
ddadleuon â Hywel Lewis yn y Cymro yn y 70au yn dweud bod y gair
Meseia’n golygu rhywbeth tebyg i Fuehrer.) Yr oedd
cenedlaetholdeb Iddewig yn dyheu am arweinydd milwrol fyddai’n bwrw’r
Rhufeiniaid allan, yn dychwelyd y deyrnas i Israel, yn eu gwneud yn
bencenedl, gan ddangos i bawb mai Israel oedd ffefryn yr Hollalluog. “Ti
yw Meseia Duw” medd Pedr, ac mae fe ar yr un pryd yn gywir ac anghywir.
Y Gair iawn - yr ystyr anghywir. Bydd Duw yn dangos ei hun nid mewn
llwyddiant milwrol, ond trwy fod yn ysglyfaeth i drais dynol ar groes.
Mae’r disgyblion yn dal i chwilio am rywun i ddychwelyd y deyrnas i
Israel ar ôl y croeshoelio a chyn sylweddoli a deall yr Atgyfodiad .
Dyma un o’r negeseuon yn yr hanes cyfoethog am y cyfarfyddiad ar ffordd
Emaus.
Awgrym Alison yw bod Iesu yn gwneud yr un peth gyda lliaws o eiriau
eraill hefyd, ac o’r herwydd yn gwrando a llefaru mewn ffordd eironig
iawn, fel pe bai e’n rhoi pethau mewn dyfynodau trwy’r amser.
Mae ffordd od iawn gan Iesu o ddelio â chwestiynnau. Arfer Iddehollol yw
ateb trwy ofyn cwestiwn arall nôl. Mae fel petai Iesu’n cymryd yr
agwedd- Os wyt ti’n gorfod y cwestiwn yna, ‘dwyt ti byth yn mynd i
ddeall fy ateb i ! Y disgyblion sy’n holi “Ai ychydig fydd yn mynd i
mewn i’r deyrnas?” (Luc 13:24) Beth yw’r cymhelliad y tu cefn i’r
cwestiwn? Cwmni bach dethol ydyn ni’n te! Mae’r Iesu’n diystyru’r
cwestiwn ac yn dweud “Ymegnïwch i fynd i mewn trwy’r drws cul, oherwydd
‘rwy’n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.”
Pa fath o ateb yw hwnna? I mi mae fe’n swnio fel rhybudd ib obl sy’n
meddwl eu bod ‘nhw’n sâff!
Y Ddeddf.
Mae cwestiynau’r awdurdodau crefyddol yn ymwneud â’r Ddeddf, oherwydd
dyna ffon fesur pob ymddygiad duwiol a da. Cwestiynau i’w faglu ydyn
‘nhw. Dyma gwestiwn gan y cyfreithiwr: Beth a wnaf i etifeddu bywyd
tragwyddol? Dyma gwestiwn nôl gan Iesu: “Beth sy’n ysgrifenedig
yn y Gyfraith?” Ond medd Luc, mae’r holwr yn dymuno ei gyfiawnhau
ei hun a daw cwestiwn newydd “Pwy yw fy nghymydog?” Rêl
cwestiwn twrnai! A’r ateb ddaw yw stori’r Samariad Trugarog. Nid stori
am rywun annisgwyl yn troi mas i fod yn garedig yw hon. Nid hyd yn oed
stori am elyn yn troi’n gyfaill. Mae hi’n llawer pherycclach ei hystyr.
Mae cadw manylion y ddeddf yn golygu bod cynrychiolwyr mwyaf duwiol y
system yn methu ag ymddwyn mewn ffordd syml ddyngarol. Mae’r system ei
hunan yn gwarafun i neb fod yn offeiriad na swyddog yn y deml a medru
rhoi sylw i greadur mewn trybini. Dyna i chi ddaeargryn dan y Deml . Mae
golygu bod crac drwy’r system - on’d yw e? Dim syndod ei fod e wedi
digio’r awdurdodDyma danseilio’r Deml a’r Ddeddf. Yn stori’r Samariad
Trugarog y mae’r gair Deddf ei hun yn dod yn air amwys fel y gair
Meseia. Allwch chi ddim dibynnu arni i fod yn iawn na gwarantu
eich bod yn iawn.
Pechod
Pechod oedd torri’r ddeddf ac yr oedd cadw’r ddeddf yn gwarantu bendith
Duw. Y drafferth yw nad yw’n profiad yn ategu hynny. Ochr arall y
geiniog yw bod rhywun anffodus neu glâf siŵr o fod yn euog o rywbeth. Os
yw Job wedi mynd yn fethdalwr a’u blant wedi marw, mae’n rhaid
mai arno ef oedd y bai yn rhywle! Yn Ioan 9 daw’r cwestiwn yn y ffurf
yma: “Rabbi ,pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni , i beri iddo gael
ei eni’n ddall?” Rhaid, yn wyneb dioddefaint, bod bai ar rywun! Dyma
sail yr amgyffrediad bod dioddefaint yn gosb ac yn arwydd o ddicter
Duw.“Dyw hi ddim wedi gwneud dim i haeddu hynna” Beth wnes i i haeddu
hyn ? cwestiwn anghywir arall!
Yn Ioan 6 mae ‘na ddrama lle am ddyn dall sy’n cael ei farnu oherwydd ei
ddioddefaint .Mae’n cael ei dderbyn nôl i mewn i gymuned ffydd yn llawn
trwy gael ei iachau- ond am mai ar Y Sabbath y digwyddodd hynny, mae
rheol wedi ei thorri.Teflir amheuaeth ar Iesu. Dyma ddadl chwyrn yn codi
ac Iesu a’r dyn dall yn cael eu taflu allan. Ond ar ddiwedd y bennod y
pechaduriaid yw’r rhai sydd yn mynnu bwrw allan a barnu’r Iesu
a’r dyn dall a’i rieni. Yn y bennod hon nid cwestiwn damcaniaethol am
berthynas dioddefaint a barn sy’n bwysig, ond y pechod yw’r weithred o
farnu a thaflu allan.Dyna droi’r syniad o beth yw pechod wyneb i waered!
Y mae’r bennod yn fath o stori a myfyrdod ar “Na fernwch fel na’ch
barner”. Y barnu yw’r pechod.
Ond y gwir yw ein bod ni i gyd yn meddwl ein bod ni’n cynnal moesoldeb,
yn cadw safonau, yn cynnal y pethau trwy farnu pobl eraill. Ond mae’r
Iesu’n tanseilio’n hunan gyfiawnder a’n culni ni fel unigolion ac yn
sicr y cyfundrefnau sy’n codi muriau ar sail barnu o’r fath - ar fwrw
llinyn mesur.
Os yw Barnu’n bechod, beth felly yw Barn?
Wel dim ond Duw piau fe! Ond y mae Barn Duw yn wahanol iawn i’n barnu
ni. Ystyriwch un o dröedigaethau Pedr.( Mae e’n cael sawl un!) Mae e’n
gwadu Iesu dair gwaith yn llys yr archoffeiriad, wrth y cwmni sy’n
ymgynhesu wrth y tân golosg.’ Fe gofiwch i Iesu ddal ei lygad e a bod
Pedr wedi mynd allan ac wedi wylo’n hidl. Dyna, medd Ioan , farn Duw ar
waith wrth i Pedr sylweddoli dyfnder ei wendid, a’i frâd. Nid dial na
chosb, a ‘doedd dim dicter chwaith, ond wynebu’r gwir yn y goleuni. Y
mae Barn yr Iesu yn dwyn ing a gwae ar Pedr, ond nid cosb ydyw, ac nid
dicter yn Iesu sy’n ei ysgogi. Ei weithredoedd sy’n dwyn barn arno yn
ngoleuni’r gwirionedd.
Ym mhennod olaf atodol Efengyl Ioan y mae’r efengylydd yn gosod tân
golosg arall, y tro hwn ar lan môr Galilea, ac yn rhoi cyfle , dair
gwaith i Bedr dderbyn y tangnefedd helaeth hwnnw yr oedd Iesu yn ei
gynnig yn sgil yr Atgyfodiad ( Tangnefedd i chwi! Myfi yw! Nac ofnwch!)
Dyma ymateb Iesu i’w frâd a’i ofn. Dim dannod, dim beio, dim talu nôl,
dim dicter, dim cosb. Dim hyd yn oed ! “Wfft i shwd ffrindiau!” Yn lle
hynny ceir y boen ingol o wynebu’r gwir. Y mae stori pob disgybl yn
gorfod bod yn stori Pedr, yn adnabod dyfnder ein methiant yn wyneb y
gwirionedd llachar y mae Iesu’n ei arllwys ar bob sefyllfa. Dyna beth yw
Barn sydd ar yr un pryd yn cynnig maddeuant ac mae’r fendith yn dod trwy
ddagrau edifeirwch i dderbyn rhyddid a gwyleidd-dra cymuned y rhai
edifeiriol.
Yr ydych chwi yn barnu yn ôl safonau dynion. Minnau nid wyf yn barnu
neb, ac os byddaf yn barnu y mae’r farn a roddaf yn ddilys, oherwydd nid
myfi yn unig sy’n barnu, ond myfi a’r Tad a’m hanfonodd i” Ioan 8
Y mae presenoldeb Iesu yn dangos y gwir. Y mae ffaith yr Iesu
croeshoeliedig yn barnu holl gyfundrefnau pŵer yr ymerodraeth a’r Deml.
Hon yw'r farn, ddyfod goleuni i’r byd a charu o ddynion y tywyllwch yn
fwy na’r goleuni.
3. DAMHEGION A DIGWYDDIADAU ERAILL
a) Wel meddech chi, beth am y defaid a’r geifr ? Y rhai sy’n meddwl mai
defaid ydyn nhw yn rhinwedd eu gweithredoedd da, sy’n troi mas i fod yn
eifr! Yr hunangyfiawnder o feddwl ein bod ni’n iawn sy’n peri i ni ni
ddefaid tybeidig , droi allan i fod yn eifr mewn gwirionedd. Hyn am ein
bod yn barnu pobl eraill ac yn dweud mai hwy yw’r geifr
b) Yn nameg y ddafad golledig y mae Alison yn nodi calon y bugail
ac yn ychwanegu: Nodwch os gwelwch yn dda bod calon y bugail yn golygu medru edrych ar
fleiddiaid yn eu dafadeiddrwydd (sheepliness). Nid mater ein bod ni’n
ofni fod ‘na bobl wedi eu gwisgo fel defaid sydd mewn gwirionedd yn
fleiddiaid, ond i’r gwrthwyneb, medru dychmygu’n greadigol fleiddiaid
sydd, mewn rhyw fan,fwy neu lai cuddiedig o’u bywydau, yn ddefaid go
iawn , ac i’w caru fel y cyfryw. t 188 ibid
c) Ystyriwch ddameg yr ŷd a’r efrau. Rhaid i’r ddau dyfu gyda’i
gilydd achos mae 'nhw mor debyg i’w gilydd fel na allwn ni ddweud prun
yw prun. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir hwy. Duw ac ef yn unig sy’n
gwybod prun yw prun. Ac nid cosbi chwyn am fod yn chwyn yw eu taflu i’w
llosgi, dim ond canlyniad y ffaith mai chwyn ydyn nhw a dyw 'nhw’n dda i
ddim!
Damhegion y Deyrnas
Roedd yr Iddewon yn dychmygu y byddai teyrnas Israel yn deyrnas Dduw.
Newyddion da Iesu yw bod teyrnas nefoedd yn ein plith ni, nawr. Ac felly
er bod rhaid disgwyl i weld beth yw’r gwahaniaeth rhwng ŷd ac efrau a
defaid a geifr, mewn rhai mannau y mae presenoldeb yr Iesu ei hun yn
dwyn barn cwbl bresennol i’r golwg. Ei bresenoldeb ef sy’n glanhau’r
Deml a throi byrddau’r cyfnewidwyr arian.
Mae’r deyrnas yn bodoli mewn cychwyniadau bychain fel yr hedyn mwstard
a’r burum yn y toes, yn yr egni cwbl fwriadus o chwilio am rywbeth
gwerthfawr fel darn arian. Ymgolli’n llwyr mewn argyhoeddiad ysol bod
trysor mewn cae a rhoi oes i chwilio amdano. Teyrnas rhyfedd o amrywiol
yw hon.
Uffern a’r Diwedd
O ddarllen y testun yn ofalus, fe welwch chi dro ar ôl tro fod y gosb
a’r tân ysol yn codi o ganlyniad i ddrygioni pobl, nid fel elfen
ychwanegol wedi ei gynhyrchu gan ddigofaint Duw. Mae’r Iesu’n
defnyddio’r eirfa, ac mae e’n defnyddio’r eirfa am y Diwedd. Ond fel y
mae’r amser wedi dod i addoli’r Tad mewn Ysbryd a gwirionedd - yn awr y
mae - felly yn awr y mae Barn Duw ar safonau systemau’r byd hwn - ac
wrth gwrs arnom ni sy’n barod iawn i fwrw eraill i uffern. ’Rydyn ni'n
llai parod i wynebu y byddwn ninnau mewn uffern o gasineb oni bai i ni
edifarhau am ein dallineb, ein diffyg asgwrn cefn, ein diffyg
trylwyredd.
Fy mwriad yn hyn o lith yw awgrymu bod priodoli trais, dicter a chosb i
Dduw yn codi allan o’n dicter a’n trais ni, a’n hawydd ninnau am gosb a
dialedd. Ystyriwch hanes y talentau sy’n swnio fel stori am gosbi rhywun
sydd ddim yn gwneud ei orau. Y mae’r trydydd, sydd ond yn cael un dalent
yn claddu honno rhag ofn iddo fethu. Mae’n credu bod y meistr yn ddyn
cas a chaled. Mae’n rhy ofnus i wneud dim â beth sydd wedi cael i roi
iddo. Mae’r darlun sydd ganddo o feddwl ei feistr yn sicrhau mai
methiant yw e! I’r ddau arall y mae rhyddid eu perthynas â’r meistr
yn golygu llwyddiant, ac mae’r meistr yn hael iawn iddyn ‘nhw. Mae’r
ffordd y meddyliwn ni am Dduw yn bwysig iawn a diwinyddiaeth wael yn
beth peryglus tu hwnt. Dyma danseilio’r syniad o Dduw sy’n blismon..
Nid wyf fi yn credu yn y Duw sy’n blismon. Barn Duw fyddai wynebu’r
gwirionedd amdana’i i fy hun heb edifeirwch, heb fedru derbyn y
tangnefedd a gynigir yn ddi-ffael gan y Crist Atgyfodedig.
Hon yw'r ddamnedigaeth ddyfod goleuni i’r byd a charu ohonom y
tywyllwch yn fwy na’r goleuni. Felly dyna weddi Ladin o’r 14eg ganrif i gloi’r drafodaeth:.
Hollalluog a thragwyddol Dduw, a dynnaist ffynnon o ddŵr bywiol
i’th bobl yn yr anialwch, tynn o galedwch ein calonnau ddagrau
edifeirwch fel y gallwn alaru oherwydd ein pechodau a chael trwy dy
drugaredd dy dderbyn Di….
Darnau Ysgrythurol Ychwanegol Perthnasol.
Marc 13 ar Eschatoleg. Dychweliad Crist.
Dydd y Farn adnod 35 gyda’r hwyr, hanner nos neu ganiad y ceiliog, ai yn
fore… disgrifio’r Mab #Dyma brif ddigwyddiadau’r dioddefaint! Y swper
olaf, Gethsemane, y brad wrth y Tân Golosg, y croeshoelio ac meddai’r
canwriad, Yn wir, Mab Duw oedd hwn “.
Maranatha Tyred Arglwydd i ddangos i ni nawr dy wirionedd di. Yn wir
tyred Arglwydd Iesu…. Dyna’r Achlysur pan oedd Iesu ei hun yn barnu’r
byd. Y mae’r farn wedi digwydd eisoes!
Yn ôl epistolau Ioan y mae’n Dduw nad oes ynddo ddim tywyllwch. Yn
gyntaf wna’i eich atgoffa chi bod ‘na’n fras ddwy agwedd tuag at yr Hen
Destament; (Maddeuwch mor fras yw’r dosbarthiadau hyn!)
a) Mae pobl anffaeledigrwydd a gwirionedd llythrennol yr ysgrythur yn ei
weld fel Hanes Duw yn ei ymwneud â chenedl Israel a pherygl hwn yw methu
â chymryd o ddifrif y syniad o ddatblygiad a datguddiad graddol mewn
ffydd a diwylliant. Wedi cloi’r ysgrythur y tu mewn i un dehongliad
haearnaidd ac mae’r gwir sydd ynddo eisoes wedi ei ddatguddio.
b) Mae’r duedd Ryddfrydol yn llawer rhy chwannog i ddiystyru
arbenigrwydd yr Hen Destament ac awgrymu nad oes ddim cysondeb rhwng y
testunau Hebreig a’r Groeg. (Hen berygl yw hwn - yr oedd yr heretic
Marcion eisiau cael gwared ar yr Hen Destament a rhai llyfrau o’r newydd
o ran hynny. Ac mae’r rhyddfrydwyr hwythau yn cael trafferth i
ymddihatru oddi wrth eu rhagfarnau eu hunain. Angen ail ddehongli’r
groes a darganfod ein bod yn dod ar hyd llwybr newydd i hen wirionedd a
ystumiwyd.
Nid dig a chosb mo’r farn hon – ni sy’n mynnu dychmygu hynny am mai
felly y bydden ni’n ymateb. (Stori’r offeiriad a gollodd ei ddwy law
mewn bomb yn Ne Affrica yn amser y frwydr yn erbyn apartheid
Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb gan Robin Chapman
Pan ges i wahoddiad caredig Pryderi i ddweud gair heno am y berthynas
rhwng cenedlaetholdeb a Christnogaeth, mi wnes i’r hyn y mae pob
academydd cyfoes yn ei wneud: troi at Google. A dyma ddod ar draws y
gyffes hon ym mlog Rhys Llwyd, myfyriwr ymchwil ym Mangor a raddiodd yma
yn Aberystwyth dro’n ôl. Y dyddiad sydd wrthi ydi 8 Ionawr eleni:
Rwyf wedi dod i gredu ers rhai blynyddoedd bellach mai gwladwriaeth sydd
wedi fforffedu ei hawliau gerbron Duw ydy'r Wladwriaeth Brydeinig. Rwy'n
aelod o Blaid Wleidyddol sydd a'i hamcan tymor hir o dorri i ffwrdd o
Sataneiddiwch y wladwriaeth Brydeinig i ffurfio gwladwriaeth sy'n deg a
chyfiawn yng ngolwg Duw. Rwyf hefyd yn gwbl dawel fy meddwl fod rhaid
bod yn anufudd i'r wladwriaeth Brydeinig os am fod yn ufudd i Dduw a'i
deyrnas. Braint a dyletswydd felly yw i'r Cristion leisio barn a
gweithredu yn erbyn rhywbeth sydd o'r un drwg - ac nid oes gwadu fod
rheibio o du'r gwladwriaethau imperialaidd, gyda Phrydain yna gyda'r
gwaethaf, yn ganlyniad uniongyrchol y cwymp. Yn enw'r Iesu atgyfodedig
felly yr anturiaf innau yn unol â'r traddodiad Cymreig Cristnogol (sy'n
rhedeg o Forgan Llwyd i Hiraethog i Michael D. i Emrys ap Iwan i Lewis
Valentine i R. Tudur Jones i Gwynfor) i danseilio'r drefn anghyfiawn
bechadurus. Nid theocratiaeth mo hyn ond ceisio cyfiawnder, Cristnogaeth
yw fy ysbardun i ond diolch i Ras Cyffredin gall Cristnogion uno gyda'r
anghrediniwr pennaf ar faterion gwleidyddol.
Yn awr, rhaid imi ganolbwyntio ar un agwedd yn unig yn yr ugain munud
fwy neu lai sy gen i heno. Dwi’n amau dim bod Rhys Llwyd yn ddiffuant
wrth son am y cysylltiad dibynnol os nad angenrheidiol (hynny ydi,
‘contingent’ yn hytrach na ‘necessary’) y mae o’n ei weld rhwng ei ffydd
a’i genedlaetholdeb. Ond dwi’n llai sicr am ei hanesyddiaeth - ei apêl
at hanes, chwedl R T Jenkins. Fy nadl, yn gryno iawn, ydi mai peth go
ddiweddar ydi’r berthynas rhwng cenedlaetholdeb cyfansoddiadol a'r hyn y
mae Rhys Llwyd yn ei alw ‘y traddodiad Cymreig Cristnogol’ - er y
byddai’n well gen i ddweud ‘traddodiad Cristnogol Cymreig’. Mi all ei
bod yn briodas hapus, naturiol a dilys ddigon, ond priodas ddiweddar ydi
hi, er hynny - a phlentyn yr ugeinfed ganrif, a rhyw fath o fab maeth i
Emrys ap Iwan ydi Rhys Llwyd yn ei gredo ac nid dolen mewn cadwyn sy’n
ymestyn yn ôl i’r Piwritaniaid.
Mae’n bosib crynhoi’r gwahaniaeth diwylliannol - yn yr ystyr ehangaf -
rhwng y cyfnod yn union cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a dauddegau’r ugeinfed
ganrif yng Nghymru dan dri phen. Yn gyntaf, rydan ni’n gweld moderniaeth
yn herio’r dymer delynegol mewn llenyddiaeth: yn rhigymau T. H.
Parry-Williams a ‘Gwaed Ifanc’ Prosser Rhys a phryddestau Caradog
Prichard, er enghraifft. Yn ail, mae yna symud graddol ond digamsyniol
ymhlith deallusion y Gymru Gymraeg oddi wrth ryddfrydiaeth wladgarol à
la O. M. Edwards tuag at genedlaetholdeb gwleidyddol - sefydlu’r Blaid
Genedlaethol yn 1926. Ac yn drydydd, mae’r dauddegau yn tystio hefyd i
newid yn niwinyddiaeth Cymru, lle mae rhyddfrydiaeth yn cael ei disodli
o dipyn i beth gan amryw byd o ddehongliadau llymach o’r broffes
Gristnogol, boed efengylaidd, Calfinaidd neu Gatholig.
Fy ngobaith heno, felly, ydi codi dwy sgwarnog am y ddau bwynt olaf, sef
y cyfnewidiad o ryddfrydiaeth wladgarol i genedlaetholdeb ar y naill
law, ac o ryddfrydiaeth ddiwinyddol i ddiwinyddiaethau llai cymodlon ar
y llaw arall. Fy sgwarnog gyntaf fydd gofyn a oes yna unrhyw gyswllt
syniadol cynhenid rhyngddyn nhw; ac yn ail, mi hoffwn i ofyn hefyd - a
chael gwybod gennych chi - a ydi cenedlaetholdeb, ymhlith Cristnogion
heddiw, yn rhagdybio dealltwriaeth o’r Efengyl sy’n ymwrthod â chanonau
rhyddfrydiaeth, sef ewyllys rhydd a digonolrwydd rheswm a chred mewn
cynnydd ac esblygiad?
Rydan ni’n tueddu i gamliwio Cristnogaeth Anghydffurfiol yr Oes
Edwardaidd. Oedd, roedd yna bregethu digon hallt yn erbyn ysgafnder o
bob math: o bêl-droed i bing pong, o’r ddiod gadarn i gardiau, o famau
dibriod i farnais ewinedd. Dwi’n cofio Islwyn Ffowc Elis yn dweud wrtha
i fel y cafodd o ei fagu yn niwedd y dauddegau a dechrau’r tridegau ar
aelwyd a gredai fod cadeiriau esmwyth yn anesgusodol o faldodus. Ond at
ei gilydd, o dan y dyrnu cyson yma ar ymarweddiad amhriodol neu
anweddus, roedd y darlun o ddyn yn un cymharol dyner. Gair Elfed yn ei
gyfrol o bregethau Planu Coed am ei ddiwinyddiaeth ei hun oedd ‘hynaws’.
Dyma ‘Pa Beth yw Dyn?’ Dyfed yn 1907:
Mae ynddo atgof bywyd di ystaen,
Cynefin â rhodfeydd y byd a ddaw;
Pan groesai dros y ffin yn ol a blaen,
Ac agoriadau’r nefoedd yn ei law …
Rhy ogoneddus yw i fyw dan wawd,
Rhy ddrud i’w ollwng dros y dibyn pell;
Fe wariodd Duw Ei gyfoeth nes yn dlawd
I brynu iddo etifeddiaeth well.
Hynaws iawn. A phrin fod darlun mwy heulog o’r berthynas rhwng Duw a dyn
i’w chael yn unman nag ym mhregeth Miall Edwards, ‘Natur, Dyn, Duw’ yn
1920 - ddwy flynedd yn unig, sylwer, ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf,
lle cyhoeddodd mai ‘pridd y ddaear wedi ei oleuo â fflam y duwdod’ ydi
dyn, ac ynddo ‘ddyheadau a gogwyddiadau sy’n ymestyn y tu hwnt i fyd
natur ac yn ei gysylltu â’r goruwchnaturiol’.
O dan yr amrywiadau o ran pwyslais yn niwinyddiaeth chwarter cyntaf yr
ugeinfed ganrif - efengyl gymdeithasol George Maitland Davies a Tom
Nefyn, er enghraifft; heddychiaeth Thomas Rees a John Morgan Jones a
Puleston Jones; diddordeb David Williams a Herbert Morgan mewn
Beirniadaeth Feiblaidd a’r hollti blew ynghylch ysbrydoliaeth neu
anffaeledigrwydd y Beibl a - roedd hyn o dir cyffredin: roedd y gwŷr
bonheddig hyn i gyd yn gredinwyr yn naioni cynhenid dyn, ac yn
Brydeinwyr i’r carn. Eu hoff ddameg oedd dameg y Mab Afradlon a’u
harwyddair oedd Hir Oes i’r Brenin. Nid nad oedden nhw hefyd yn Gymry
gwlatgar. Mae dwy gerdd gyferbyn â’i gilydd yn Caniadau Elfed sy’n dweud
y cyfan am y meddylfryd ymddangosiadol hollt yma. Y naill ydi ‘Arthur
Gyda Ni’:
Mae Arthur Fawr yn cysgu,
A’i ddewrion sy o’i ddeutu,
A’u gafael ar y cledd:
Pan ddaw yn ddydd yng Nghymru,
Daw Arthur Fawr i fyny
Yn fyw – yn fyw o’i fedd …
Gwyn fyd y galon anwyl,
Sy’n caru ac yn disgwyl
Am weled Cymru’n rhydd:
Caiff honno’r fendith oreu,
Pan fydd goleuni’r boreu
Yn dangos Cymru Fydd.
A’r llall, ‘O Navis!’ - am long yr y wladwriaeth – a’r Ymerodraeth:
Brydain, fy ngwlad, â’th glod ar y moroedd,
Ple mae dy rwyfwyr am fyned â thi?
Demti di’r gwynt, a pheryglon y dyfroedd,
Heb un anrhydedd, arglwyddes y lli?
Cofia i Shakespeare addurno dy hanes.
Cofia i Milton sancteiddio dy glod:
Cyn it’ fodrwyo dy enw â gormes,
Cofia’r hyn fuost, a’r hyn elli fod.
I Elfed a’i genhedlaeth, doedd dim anghysondeb. Yn wir, hanfod eu
gwladgarwch, eu hawydd am ‘weled Cymru’n rhydd’, oedd eu Prydeindod.
Iddyn nhw, bendith ddigymysg oedd y Ddeddf Uno. Roedd Harri Tudur wedi
gwneud Cymru’n gydradd â Lloegr ac yn gyfrannog ym manteision yr
Ymerodraeth. Roedd y Ddeddf wedi rhoi i Gymru ei chenhadaeth fawr
hanesyddol hefyd. Roedd rhagluniaeth ddwyfol wedi llunio Prydain i fod
yn uned er lles y byd. Mi allai’r Sais gyfrannu ei arbenigedd ariannol a
masnachol; gellid dibynnu ar ddawn y Sgotyn fel peiriannydd a
thechnegydd ac ar nerth bôn braich y Gwyddel. I Gymru yr ymddiriedwyd yr
alwedigaeth uchaf oll - chwedl Gwili - o ‘chwarae bellach ddwyfol ran ym
mywyd dynol ryw’. Neu, a dyfynnu’r rhagarweiniad dienw i gyfrol o
bregethau gan Gymry Lerpwl - a thad Saunders Lewis yn eu plith:
Gweinidogaeth yr Efengyl ydyw rhodd bennaf Duw i genedl, ac y mae hynny
wedi ei brofi yn ffaith yn hanes y Cymry. Nid ydym yn fawr nac yn
gyfoethog; ac nid ydym oherwydd ein safle ddibynnol, yn alluog i chwareu
rhan amlwg yng ngwleidyddiaeth y byd; ond dyrchafwyd ni hyd y nef yn ein
gweinidogaeth.
Mae rhywun yn dod i’r casgliad, wrth ddarllen hanes y Gymru Edwardaidd
nad oedd lle i genedlaetholdeb am fod y Cymry’n synio amdanyn nhw eu
hunain fel cenedl yn barod. Erbyn canol y dauddegau, roedd gan Gymru lu
o sefydliadau a gyhoeddai wrth y byd mai cenedl oedd hi: prifysgol,
amgueddfa, llyfrgell, eisteddfod, eglwys ddatgysylltiedig, timau rygbi a
phêl-droed, cynrychiolwyr yn San Steffan - a Chymro amlycaf y byd, Lloyd
George, yn brif weinidog arnyn nhw. Dyma wlad a’i hystyriai ei hun fel
cenedl yn ystyr yr Hen Destament i’r gair hwnnw hefyd: fel pobl wedi’u
hethol gan Dduw. Prin fod talcen caletach i genedlaetholdeb trwy Ewrop
na Chymru yng nghanol dauddegau’r ugeinfed ganrif. Ac am fod cwlwm mor
dynn rhwng yr elfennau cyfansoddiadol ac ysbrydol yng ngwead Cymru,
mae’n anochel, o bosib, i genedlaetholdeb apelio’n bennaf at rai nad
oedden nhw ddim yn edrych ar eu gwlad trwy’r un sbectol rosliw - yn eu
dehongliad gwleidyddol ac yn eu Cristnogaeth chwaith.
Roedd a wnelo cenedlaetholdeb cynnar yn y bôn â diffyg ffydd lawn
gymaint ag â ffydd, a’r gamp a osododd y Blaid Genedlaethol iddi ei hun
oedd datgymalu Cymru: tanseilio’i gwladgarwch a chwalu ei hanesyddiaeth.
Gwnaeth hynny - ymhlith dulliau eraill - trwy sarnu ei
hunanddigonolrwydd ysbrydol a baeddu ei menig gwynion.
Felly, dyna Ambrose Bebb, yn alltud yn Ffrainc yn 1923, yn croesawu
unbennaeth yn Ewrop, gan ddatgan y syniad cableddus mai ‘eisiau ei
Mussolini sydd ar Gymru!’: syniad cableddus yng nghyd-destun y dauddegau
nid yn gymaint am yr awgrym y byddai Cymru’n well ei byd dan law haearn
angen teyrn ond bod angen dim na neb ar Gymru i’w gwella. Dyna J. E.
Daniel wedyn, a olynodd Saunders Lewis fel llywydd y blaid, yn dal nad
oes i’r Eglwys unrhyw ran sylfaenol mewn cymdeithas. Iorwerth Peate, yn
ei alw ei hun yn fodernydd, siŵr iawn, yn agored iawn i Feirniadaeth
Feiblaidd ac yn drwm ei lach ar uniongrededd o bob math, ond yn cyhoeddi
mai ‘Yr Oes Faw’ ydi’r oes sydd ohoni., a ‘dirywiad ym mhob cyfeiriad’.
Gellid enwi Waldo hefyd, y mae pob cerdd yn ei Dail Pren yn gyfranc mewn
epig sy’n adrodd hanes gwrthdaro rhwng dau rym am enaid dyn: ar y naill
law y dadelfennwr, bwytäwr y blynyddoedd, y bwystfil, y Cesar, y sarff,
Elw, Mamon; ac ar y llall, minteioedd y Cyfiawn: yr hen gyfannwr, y
dihangwr o'r byddinoedd, y wythïen nad â’n wyw, rhwydwaith dirgel Duw, y
rhai cryf uwch codwm, perl yr anfeidrol awr, y tangnefeddwyr. Ac yna,
wrth gwrs, rhaid crybwyll Saunders Lewis ei hun, a gyhoeddodd flwyddyn
wedi sefydlu’r Blaid mai pechod yw priodoledd arbennig dyn - ‘y peth
mwyaf dynol yn bod’, chwedl yntau - ac a dreuliodd ei yrfa fel llenor,
beirniad a gwleidydd yn taro’r un tant - ‘the dark, corrective side of
the Christian affirmation’, yng ngeiriau un o’i feirniaid. Mi fynnodd
Lewis yn ei Williams Pantycelyn, er enghraifft, mai hanfod tröedigaeth y
Per Ganiedydd oedd nid ymchwil unigolyn am ei Dduw ond ymgais llanc i
ddargyfeirio a dofi ei nwydau rhywiol, Saunders Lewis a greodd Monica
a’i gadael i’w thynged, a welodd fai ar straeon byrion D. J. Williams am
yr achubiaeth sydd ynddyn nhw ac a ddaliodd yn 1968, wedi i Gwynfor
Evans ennill sedd gyntaf y Blaid yng Nghaerfyrddin, fod gwleidyddiaeth
yn llygredig yn ei hanfod ac yn deillio o’r cwymp:
Peth drwg ydy pob llywodraeth. Pechod ydy achos llywodraeth. Petai
dynion yn berffaith fydde dim llywodraeth. Ac felly cyfrwng ydy
llywodraeth, peiriant ar y gorau.
Cofiwch hefyd gyd-destun y clwt porffor hwnnw o araith gan Emrys Wledig
yn Buchedd Garmon: ‘Gwinllan a roddwyd …’ Y moch sy’n bygwth sathru’r
winllan ydi’r Pelagiaid a’u cred yng nghynnydd y ddynoliaeth a’i gallu
cynhenid hi i gyrraedd perffeithrwydd.
Petai Saunders Lewis wedi cael ei eni ddeng mlynedd ar hugain yn
ddiweddarach, yn y dauddegau, dyweder, mae’n gwestiwn gen i a fyddai
wedi troi’n Gatholig o gwbl. Oherwydd erbyn y pedwardegau a’r pumdegau
roedd yr hinsawdd syniadol efengylaidd ymhlith cenedlaetholwyr – yn
eironig iawn – yn llawer mwy cydnaws â’i anian wrthberffeithiol ei hun.
Meddyliwch am Tudur Jones yn rhybuddio rhag yr Anghrist yn y
pedwardegau, yn union fel y gwnaethai Saunders Lewis flaen rheithgor
Caernarfon yn y tridegau, ac yn ‘Cenedlaetholdeb Cristion’ yn Y
Cylchgrawn Efengylaidd yn 1968, yn dilorni ymdrechion eciwmeniaeth fel
ymgais i ailgodi Tŵr Babel. A dyma Bobi Jones yn O’r Bedd i’r Crud:
Mae’r Cymro cyfoes, pe baech yn mynd â phâl ac yn torri i lawr drwyddo,
yn cynnwys haenau daearegol go afreolaidd. Y rhan uchaf a mwyaf
arwynebol sy’n dod i’w feddwl yw’r hyn sy’n digwydd o’i gwmpas y dwthwn
hwn. Ond torrwch i lawr heibio i’w drwyn i’r haenen nesaf, ac mi ddowch
at y chwyldro diwydiannol. Ewch i lawr eto at ei geg, a dewch i’r Dadeni
Dysg. Rhofiwch i lawr am lai nag ychydig o fodfeddi drachefn at ei
galon, a dewch at y Diwygiad Protestannaidd a’r math o werthoedd sy wedi
treiddio o’r fan yna. Pethau y mae’n eu rhannu gyda phawb o’i gyd-Gymry.
Ewch ymhellach fyth at ei draed, ac mi ffeindiwch fod oes y seintiau yno
rywle yn ddigon croyw, yn plannu’u llannau odanynt ac yn gosod patrwm
i’n gwlad.
Yr hyn sydd heb gael ei ddweud sy’n bwysig yma, wrth gwrs: yr addefiad
ymhlyg mai cynnyrch ein hetifeddeg a’n hanes ydan ni ac nid ffrwyth ein
hymdrechion a’n hewyllys ein hunain. Dyna, mi dybiwn i, dylwyth
Cristnogol a chenedlaetholgar Rhys Llwyd – o waed coch cyfan: y Cymry
hynny sy’n ddibris o gyraeddiadau dynion – ac mae’n amheus gen i a ydi
Morgan Llwyd, ffrwyth dyneiddiaeth Gristnogol a chyfriniaeth a disgybl i
Jacob Boehme ac un o selogion Plaid y Bumed Frenhiniaeth, yn eu plith o
ran ei ddiwinyddiaeth na’i genedlaetholdeb.
Gwell imi droi’n frysiog iawn i gloi at fy ail gwestiwn, fy ail sgwarnog
na ches i ddim cyfle eto i redeg ar ei hôl: sef, a ydi cenedlaetholdeb,
ymhlith Cristnogion heddiw, yn rhagdybio dealltwriaeth lem o’r Efengyl?
Os oes neges o gwbl yn hyn o lith, dyma hi: bod tymhorau a ffasiynau i’n
mynegiant o’n proffes fel bodau gwleidyddol ac ysbrydol. Mi soniodd
Pryderi tua dwy flynedd yn Y Traethodydd am ‘y gŵr o Nasareth … sy’n
torri ar draws ein credoau a’n diffiniadau’, ac maen nhw’n eiriau
pwrpasol yma: credoau a diffiniadau. Mae’n siŵr gen i fod y rhan fwyaf o
genedlaetholwyr ifanc sy’n eu galw eu hunain yn Gristnogion, mewn
cydymdeimlad i raddau â Rhys Llwyd a’i sôn am y cwymp a’r Un Drwg, am
‘Sataneiddiwch y wladwriaeth Brydeinig a ffurfio gwladwriaeth sy'n deg a
chyfiawn yng ngolwg Duw’. Nhw biau’r argyhoeddiad, ond nid o reidrwydd
yr iaith. Siarad y maen nhw - yn grefyddol ac yn wleidyddol - yn idiom
eu cenhedlaeth. Wrth ddarllen geiriau Rhys Llwyd mae geiriau tebyg eu
hargyhoeddiad ond gwahanol iawn eu hieithwedd yn dod i’r cof: geiriau’r
Pelagydd hwnnw, Pennar Davies, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl bron,
gerbron Llys y Goron Caerfyrddin. Roedd Pennar, fel Rhys Llwyd, yn
genedlaetholwr; roedd, fel yntau, yn credu bod modd cyfiawnhau, yn wir,
nad oedd modd osgoi, herio’r wladwriaeth yn enw ei Grist. Fe ddywedodd
hyn:
Mae holl waith fy mywyd wedi ei seilio ar y gred fod awdurdod uwch nag
awdurdodau’r ddaear - awdurdod Duw, awdurdod y Creu a’r Cadw, y Daioni
a’r Dioddefaint a’r Gwynt dilyffethair sy’n chwythu ymhob gwirionedd is
y rhod. I mi ’does dim ystyr i fywyd ar wahân i’r argyhoeddiad mai rhan
o anturiaeth y Duw Byw yw’r hollfyd yr ydym yn byw ynddo fe, mai Efe
biau’r Nerth a’r Doethineb a’r Cariad sydd yn ei greu ac yn ei gynnal.
Os oes lle i rai di-gred trwy Ras Cyffredin yn rhengoedd y
cenedlaetholwyr, fel y mynn Rhys Llwyd, diau fod lle i’r Creu a’r Cynnal
a’r Cariad yn ogystal â’r Cwymp yn eu Cristnogaeth – ac yn y traddodiad
Cristnogol Cymraeg.