Troi hen adeilad yng nghanol tref Aberystwyth yn ganolfan fodern aml-bwrpas gyda neuadd ac
ystafelloedd i’w llogi am bris rhesymol a lleoedd parcio.
O heddiw i yfory
Cyfle i ddatblygu doniau creadigol; cyfle i ymwneud â materion moesol,
cymdeithasol a rhyngwladol; a chyfle i rannu ein ffydd trwy wrando a dysgu
oddi wrth eraill.
O’r ychydig i bawb
Canolfan Gristnogol lle bydd croeso a lle i bawb, beth bynnag eu hoed,
eu cred, eu cefndir.
Ein
Datganiad Cenhadol
Credwn fod Arglwyddiaeth Iesu Crist ar fyd a bywyd yn ein galluogi ac yn
ein cymell i ymwneud â phob agwedd o fywyd ein cymdeithas, ein cenedl a'n
byd. Credwn na allwn gyfyngu ei Arglwyddiaeth i eglwys na thraddodiad a'i
fod Ef yn ein gwahodd i'w ddarganfod ar waith yng nghanol ein diwylliant
cyfoes - yn ein hwynebu â her ei Efengyl, yn ein bendithio yn ein
tystiolaeth, ac yn ein galluogi i ddefnyddio ein doniau creadigol.