Y mae capeli Presbyteraidd Aberystwyth erioed wedi
ymateb i fel y mae amgylchiadau wedi newid; maent wedi newid eu trefn,
eu hadeiladau, eu cyswllt â’i gilydd, yn ôl fel y byddai sefyllfaoedd yn
newid ac amgylchiadau’n hawlio ymateb gwahanol. Arwydd o fywyd yw mentro
a chodi adeiladau newydd, ac nid yw newid aelwyd ond yn arwydd o
gydnabod mai tros dro yw pob adeilad mewn eglwys fyw; arwydd o weld
cyfle i dystiolaethu mewn sefyllfa newydd yw sefydlu cangen, codi
ysgoldy, agor canolfan.
Mae Morlan yn rhan o hen, hen batrwm sy’n mynd yn ôl ymhell yn
Aberystwyth.
Pobl Gosen (Rhydyfelin) yn mentro codi capel ac eglwys newydd yn
nhref Aberystwyth yn 1785, y capel a adwaenwn ni fel Y Tabernacl,
a’r tadau’n mynd ati wedyn i newid a chymhwyso’r adeilad hwnnw bedair
gwaith fel y newidiai eu hamgylchiadau hwy ac amgylchiadau’r dref. Ac
nid bodloni ar ailwampio’r adeilad yn unig a wnaethant ond mentro allan
i godi ysgoldai a changennau trwy dref Aberystwyth a’r cyffiniau yn ôl
fel y gwelent gyfle i dystiolaethu ac angen gwasanaethu: Skinner Street yn 1839, ac eto yn 1847, ac ar ôl hynny. Ebeneser, Penparcau yn 1848, ac adnewyddu eto yn 1938. Tan-y-cae yn 1877. Trefechan ddiwedd y18fed ganrif a’r adeilad a gofiwn ni yn 1897. Y Waun.
Ac yna mentro eto: oherwydd y cynnydd ym mhoblogaeth Aberystwyth a’r
datblygiadau a oedd ar droed dyma fynd ati i godi capel ac eglwys newydd
– Seilo – ym mhen arall y dref yn 1860, a’r eglwys honno yn gweld
angen newid ei gwedd dair gwaith. Hi hefyd a fu’n methrin bywyd
cyfoethog yn Skinner Strreet ac ar y Waun wrth gymryd yr ysgoldai hyn
dan ei hadain ac a gododd ysgoldy helaeth at ei dibenion ei hun
yn 1899, yr adeilad sydd bellach yn Morlan.
Bywiogrwydd cynulleidfa Seilo, gor-frwdfrydedd rhai ohonynt,
efallai, dros rai materion, a gododd gapel Salem yn 1894, y man
lle’r ydym heddiw, a bu hithau’n ffyddlon i gomisiwn yr Arglwydd i ddwyn
tystiolaeth sicr.
Y mae amgylchiadau’n newid, galwadau’n newid, anghenion yn newid, a
bellach y mae’r ffrydiau hyn wedi dod ynghyd unwaith eto, a ninnau’n
parchu’r cof am dystiolaeth ac ymateb y tadau yn eu capeli, eu
canghennau a’u hysgoldai; yr ydym yn ymfalchïo yng ngwaith y gangen sy’n
parhau yn Ebeneser. Ond yn awr yr ydym ninnau yn y Morfa yn dilyn
yr hen batrwm, ac yn mentro agor adeilad newydd i gwrdd ag anghenion
newydd. Nid ysgoldy, nid cangen, ond yr un yw’r delfryd, sef gosod ein
tystiolaeth man lle mae’r bobl, cwrdd â phobl man lle maent, yn eu
syniadau a’u hymchwil fel yn eu trigle.
Ysgoldy, Cangen, Canolfan: cyfryngau gwahanol mewn cyfnodau gwahanol,
ond un diben – i ddwyn tystiolaeth a chynnig gwasanaeth. Gweddïwn am yr
un llwyddiant ar y genhadaeth newydd hon ag a fu yn adeiladau ein tadau
tros y blynyddoedd meithion, o 1785 hyd 1899 a hyd 2005 ac ymlaen i’r
dyfodol.